John RussellJONESRUSTY Yn dawel ar ddydd Gwener, Mawrth 31, 2017 yn Ysbyty Llanymddyfri yng nghwmni ei deulu, bu farw John Russell, (Rusty) o Clos Dingat, Llanymddyfri; Priod ffyddlon a chariadus Hilda, tad annwyl Dylan, tad yng nghyfraith parchus Carys, tadcu (Didi) balch a thyner Ioan a Iolo a brawd, brawd yng nghyfraith ac ewythr hoffus. Angladd ddydd Mercher, Ebrill 19, gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Cwrdaf, Llanwrda am 1 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Ffrindiau Ysbyty Llanymddyfri neu Eglwys Sant Cwrdaf, Llanwrda trwy law Clive a Sue Davies a'r Meibion, Cyfarwyddwyr Angladdau, Ty Britannia, Llanymddyfri, SA20 0DD. Ffon 01550 720636.
Keep me informed of updates